Aeth Mark Pascoe, Rheolwr Canllawiau Etholiadol yn y Comisiwn, i’r Wcráin yn ddiweddar er mwyn arsylwi ar yr etholiad seneddol cynnar. Ymwelodd â’r wlad mewn rhinwedd bersonol ac mae wedi ysgrifennu am ei brofiadau yno.
Ar ôl ymweld â Gogledd Macedonia y llynedd, rwyf newydd ddychwelyd o antur arall – i’r Wcráin y tro hwn er mwyn arsylwi ar yr etholiad seneddol cynnar ar 21 Gorffennaf. Unwaith eto, roeddwn yno gyda’r OSCE (Organisation for Security and Co-operation in Europe) fel Sylwedydd Byrdymor (STO).
Ym mis Ebrill eleni, cafodd Volodymyr Zelensky ei ethol yn arlywydd yr Wcráin am ei egwyddorion gwrth-lygredd, gan guro Petro Poroshenko, yr arlywydd presennol, mewn ail bleidlais gyda thros 73% o’r bleidlais. Mae etholiadau blaenorol yn yr Wcráin wedi dangos hollt glir yn y bleidlais rhwng y dwyrain a’r gorllewin, ond Zelensky oedd yr enillydd amlwg ym mhob un ond un o ranbarthau gweinyddol y wlad gan ddangos awydd cryf am newid.
Mae Zelensky yn newydd i wleidyddiaeth ond cyn hyn creodd raglen deledu boblogaidd lle roedd yn chwarae athro hanes sy’n dod yn arlywydd yr Wcráin yn gwbl annisgwyl.
Ar ôl cymryd ei le heb unrhyw gefnogaeth yn y senedd, galwodd Zelensky etholiad seneddol cynnar gyda’r nod o gael seddi i’w blaid wleidyddol ‘Servant of the People’, sydd wedi’i henwi ar ôl y rhaglen deledu fel mae’n digwydd, a chefnogaeth iddo’i hun.
Mae 450 o seddi yn senedd yr Wcráin, y Verkhovna Rada. Caiff hanner ohonynt eu hethol drwy restrau pleidiau cenedlaethol gan ddefnyddio cynrychiolaeth gyfrannol, gyda throthwy o 5% yn ofynnol i blaid gael seddi. Caiff yr hanner arall eu hethol i gynrychioli etholaethau un aelod, a hynny gan ddefnyddio system y cyntaf i’r felin. Eto, o ganlyniad i’r rhyfel yn nwyrain y wlad, ni chynhelir yr etholiadau etholaeth mewn 26 o’r etholaethau hyn gan olygu bod y seddi’n wag.
Ar ôl diwrnod a hanner o sesiynau briffio yn Kyiv ar yr amgylchedd gwleidyddol, y fframwaith cyfreithiol, gweinyddu etholiadau, y cyfryngau a’r ymgyrch, cefais fy anfon i Vinnytsia ar ochr orllewinol y wlad. Yn dilyn sesiwn friffio leol, cefais i a fy mhartner STO ein hanfon ymlaen i Yampil, tref fechan ar lannau’r Dniester gyda golygfa o Moldova dros y ffin.
Caiff etholiadau yn y wlad eu rheoli gan y Comisiwn Etholiadau Canolog a phenodwyd 199 o Gomisiynau Etholiadau Dosbarth ar gyfer yr etholiadau hyn. Nid oedd modd ffurfio 26 o Gomisiynau Etholiadau Dosbarth oherwydd y rhyfel parhaus yn nwyrain y wlad lle na chafodd etholiadau eu cynnal. Mae’r Comisiynau Etholiadau Dosbarth yn goruchwylio’r haen weinyddol derfynol, y Comisiynau Etholiadau Ward sydd fel arfer yn cynnwys rhwng 13 a 15 o bobl a gaiff eu penodi i weinyddu pob gorsaf bleidleisio y mae dros 30,000 ohonynt ledled y wlad.
Agorodd yr etholiadau am 8am ddydd Sul ond gan fy mod i a fy mhartner wedi cael ein rhoi ar y sifft nos, cawsom ddechrau hamddenol i’r diwrnod gan gyrraedd ein gorsaf bleidleisio gyntaf rhyw awr yn ddiweddarach.
Roedd gennym ddau bapur pleidleisio i gadw llygad arnynt a, gyda thros 20 o bleidiau’n cystadlu ar draws y wlad, roeddent yn debyg o ran hyd i rai o’r papurau pleidleisio ar gyfer etholiadau senedd Ewrop a welsom yma ym mis Mai.
Yn ystod y diwrnod gwnaethom ymweld â hanner dwsin o orsafoedd pleidleisio gwahanol ar draws ein rhanbarth dynodedig. Gan ei bod hi’n ardal wledig, gwnaethom ymweld â phentrefi bach ac roedd y gorsafoedd pleidleisio mewn ysgolion neu neuaddau pentref, fel yn y DU. Roedd posteri anferth gyda manylion yr ymgeiswyr (ar gyfer yr etholaeth) a’r rhestrau o bleidiau yn llenwi’r mynedfeydd a gwelsom fod llawer o’r etholwyr yn cymryd eu hamser i’w darllen cyn pleidleisio.
Pleidleisio
Mae’n rhaid i bobl ddangos dogfen adnabod cyn cael papur pleidleisio gyda’r mwyafrif o’r etholwyr yn dangos eu ‘pasbort cenedlaethol’ – dogfen a roddir am ddim i bob dinesydd sy’n cynnwys manylion am breswylfa, statws priodasol, unrhyw blant, ymysg pethau eraill.
Ar ôl cael eu papur(au) pleidleisio, roedd yn rhaid i’r pleidleiswyr lofnodi’r gofrestr etholiadol eu hunain yn ogystal â llofnodi bonyn y papur pleidleisio, a gafodd ei gadw gan staff yr orsaf bleidleisio. Ar ôl bwrw eu pleidlais, rhoddwyd y papurau pleidleisio mewn blychau pleidleisio clir.
O ran pleidleisio absennol, roedd y rheini nad oeddent yn gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio yn gallu gwneud cais i bleidleisio o’u cartref. Roedd gan staff y gorsafoedd pleidleisio restr ar wahân o’r pleidleiswyr hyn a byddant yn ymweld â nhw yn eu tro yn ystod diwrnod yr etholiad, gan fynd â blwch pleidleisio bach ac unrhyw gyfarpar angenrheidiol arall gyda nhw.
I’r rheini a oedd i ffwrdd o’u cartref dros dro mewn rhannau eraill o’r wlad, roedd opsiwn i wneud cais i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio wahanol ar y diwrnod ei hun (ni allai’r pleidleiswyr hyn bleidleisio yn yr etholiadau etholaethol, dim ond yn yr etholiad ar y rhestr pleidiau cenedlaethol). Roedd dinasyddion yr Wcráin a oedd dramor yn gallu bwrw eu pleidlais mewn adeiladau diplomyddol mewn ystod eang o wledydd, o Iran i Faleisia ac o Giwba i Kazakhstan.
Cau’r pleidleisio
Daeth y pleidleisio i ben am 8pm ac yna gwnaed y gwaith cyfrif yn yr orsaf bleidleisio. Roedd hon yn broses hynod dryloyw ond llafurus. Roedd un aelod o’r Comisiwn Etholiadau Ward yn cyfrif pob papur pleidleisio ar ôl ei ddangos i bawb a oedd yn bresennol yn gyntaf. Yn ein gorsaf bleidleisio ni, roedd ychydig dros 200 o bobl wedi pleidleisio a chymerodd y broses hon dros bedair awr o’r dechrau i’r diwedd.
Wedi hanner nos gwnaethom deithio i’r Comisiwn Etholiadau Dosbarth er mwyn gweld y broses o gadarnhau’r canlyniadau ar gyfer y rhanbarth. Roedd pob Comisiwn Etholiadau Ward yn dod â’u canlyniadau a’r papurau pleidleisio i mewn fesul un lle cafodd popeth ei wirio, ei ffurfioli ac, ar ôl eu cymeradwyo, cafodd y canlyniadau eu trosglwyddo’n electronig i’r Comisiwn Etholiadau Canolog. Roedd hon yn broses hir hefyd gan fod popeth yn cael ei wirio fesul Comisiwn Etholiadau Ward ac roedd yr holl ganlyniadau’n cael eu darllen yn uchel.
Erbyn i ni gyrraedd diwedd ein sifft am 6am, roeddent wedi prosesu 22 o 192 o orsafoedd pleidleisio. Wrth i ni adael, gwelsom gannoedd o staff gorsafoedd pleidleisio yn crwydro o gwmpas neu’n cysgu yn eu ceir wrth iddynt aros eu tro.
Ar ôl ychydig o gwsg a brecwast hwyr, gwnaethom ddychwelyd i’r Comisiwn Etholiadau Dosbarth er mwyn arsylwi ychydig mwy – roedd yn ymddangos nad oedd rhai aelodau wedi symud o’u seddi am 12 awr. Erbyn i ni adael yr adeilad unwaith eto am 4pm, bron 24 awr ar ôl cau’r etholiad, roeddent wedi prosesu oddeutu hanner y canlyniadau.
Cyhoeddwyd y canlyniad terfynol gan y Comisiwn Etholiadau Canolog ar 26 Gorffennaf.
Nid oedd unrhyw un o Aelodau Seneddol newydd Servant of the People wedi bod yn y senedd o’r blaen. Bydd yn ddiddorol gweld sut yr aiff pethau i’r Wcráin nawr, ond er gwaethaf y ffaith bod y nifer a bleidleisiodd yn llai na’r arfer, roedd ymdeimlad amlwg o optimistiaeth ymhlith y bobl y gwnes i gwrdd â nhw ac mae’r bobl yn disgwyl newid cadarnhaol.
O ran y broses o weinyddu’r etholiad, roedd canfyddiadau rhagarweiniol yr OSCE yn gadarnhaol ar y cyfan a nodwyd: “roedd y broses o weinyddu’r etholiad yn gymwys ac yn effeithiol er gwaethaf yr amser byr a gafwyd i baratoi’r etholiadau, a welwyd fel cyfle i gadarnhau diwygiadau a newidiadau mewn gwleidyddiaeth y mae pleidleiswyr yr Wcráin yn gobeithio eu gweld”.